|

Codi Arian Trwy Gymynroddion

(Legacy Fundraising)

Mae’r Côd Ymarfer hwn ar Godi Arian trwy Gymynroddion yn amlinellu cyfres o feini prawf y dylai elusennau eu dilyn wrth godi arian trwy gymynroddion.

Diben y Côd yw gwneud yn siŵr bod codi arian trwy gymynroddion yn cael ei wneud mewn ffordd broffesiynol, gyfrifol a sensitif, gan roi’r sylw priodol i fuddiannau a chyfrinachedd y cymynnwr posibl ac ewyllys da ac enw da’r elusen.

At ddibenion y Côd hwn, diffinir codi arian trwy gymynroddion fel:

Y defnydd o unrhyw dechneg codi arian, p’un ai gan elusen neu asiantaeth allanol ar ei rhan, gyda’r bwriad o sicrhau rhodd o arian neu eiddo gan unigolyn yn ei ewyllys.

Am ddiffiniadau pellach o’r termau a ddefnyddir yn y Côd hwn gweler Atodiad 6.1.

  • Submit this page to del.icio.us
  • Submit this page to Digg
  • Submit this page to Newsvine
  • Submit this page to Reddit
  • Submit this page to Facebook
  • Submit this page to StumbleUpon