Gall Partneriaethau Corfforaethol ddod â nifer o fanteision yn eu sgil.
Gallant ddarparu arian sydd wirioneddol ei angen o gyllidebau marchnata neu gymunedol, Cysylltiadau Cyhoeddus da, ymwybyddiaeth o frand, ymwybyddiaeth o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, gwirfoddolwyr a rhoddion ar ffurf nwyddau.
Er hynny, heb y paratoad cywir, gallant achosi problemau a gwrthdaro. Bydd llawer yn dibynnu ar sut y mae’r berthynas yn cael ei sefydlu a’r paratoad a wneir ar y dechrau un.
Lluniwyd y Côd fel arweiniad i sut y gall elusennau weithio gyda’r sector masnachol.