|

Rheoli Blychau Casglu Sefydlog

(The Management of Static Collection Points)

  • Mae casgliadau cyhoeddus a wneir ar gyfer, neu ar ran, elusennau a mudiadau gwirfoddol eraill mewn llefydd y mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn cael mynediad iddynt, yn cael eu rheoleiddio gan y gyfraith.

    Ond fel rheol nid yw’r gyfraith yn rheoleiddio casgliadau a wneir ar eiddo preifat, lle nad yw’r cyhoedd yn cael mynediad cyffredinol.

  • Mater i nifer bach o unigolion yw llawer o’r casgliadau sy’n digwydd ar eiddo preifat lle nad yw’r cyhoedd yn cael dod fel arfer, a’r unigolion hynny yn adnabod ei gilydd – aelodau teulu, cymdeithas, clwb, grŵp neu gymuned wirfoddol fechan.

    Os ydych yn bwriadu cymryd rhan mewn gweithgaredd casglu arian ar gyfer, neu ar ran, elusen neu fudiad gwirfoddol arall, gwnewch yn siŵr bob amser bod y gweithgaredd casglu yn digwydd o fewn gofynion y gyfraith.

  • Pan fo unrhyw apêl am arian neu eiddo ar ran elusennau neu fudiadau gwirfoddol eraill yn cael ei gwneud i gynulleidfa ehangach, mae er budd pawb sy’n helpu i godi arian i sicrhau eu bod yn cynnal ymddiriedaeth a gonestrwydd y cyfrannu gwirfoddol.
  • Y dull mwyaf cyffredin o gasglu y tu allan i ofynion y ddeddfwriaeth bresennol sy’n rheoli gweithgareddau casglu cyhoeddus, yw apeliadau sy’n golygu defnyddio blychau casglu sefydlog – naill ai’n sefyll ar lawr neu ar gownteri mewn siopau, tafarndai, gwestai, ysbytai, derbynfeydd ayb.

    Mae blychau casglu sefydlog ymhlith y ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon o godi arian, yn arbennig pan ddefnyddir gweithwyr gwirfoddol i’w gosod ac edrych ar eu hôl. Maent hefyd yn arwydd gweledol o bresenoldeb elusen neu fudiad gwirfoddol a’r ffaith ei fod yn cael ei dderbyn gan y gymuned.

  • Mae’n bwysig bod yr awdurdodau a’r cyhoedd fel ei gilydd yn cadw’u ffydd mewn ffynhonnell mor werthfawr o arian elusennol. Cynlluniwyd y Côd hwn i sicrhau bod blychau casglu statudol yn cael eu rheoli a’u defnyddio’n gywir ac i warchod buddiannau’r cyhoedd wrth eu defnyddio.
  • Submit this page to del.icio.us
  • Submit this page to Digg
  • Submit this page to Newsvine
  • Submit this page to Reddit
  • Submit this page to Facebook
  • Submit this page to StumbleUpon