|

Talu Codwyr Arian Ar Sail Commiswn

(Payment of Fundraisers on a Commission Basis)

  • Mae’r Sefydliad yn credu na ddylid gwneud trefniadau felly ond mewn amgylchiadau eithriadol ac mae’n cynghori yn erbyn y defnydd cyffredinol o dalu ar sail comisiwn yn unig (gweler Adran 3 am y rhesymau y tu ôl i safbwynt y Sefydliad).
  • Mae Ymgynghorwyr Codi Arian a Chodwyr Arian Annibynnol yn ffynhonnell gynyddol o gyngor a chefnogaeth arbenigol i’r sawl sy’n ymwneud â chodi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau gwirfoddol eraill.
  • Mae’n bwysig iawn bod y dull o dalu’r Ymgynghorydd/Codwr Arian Annibynnol a swm y taliad, yn cael eu diffinio’n eglur mewn Cytundeb Ysgrifenedig rhwng y partïon dan sylw cyn dechrau unrhyw weithgarwch codi arian. (Gweler paragraff 2)
  • Mae’r arweiniad yn y Côd hwn yn berthnasol i un dull arbennig o dalu; talu am wasanaethau codi arian ar sail comisiwn yn unig (er enghraifft, y bydd y codwr arian yn derbyn taliad o x% o’r cyfanswm a godir).
  • Mewn amgylchiadau eithriadol gall fod yn wir mai’r dull hwn o dalu yw’r unig opsiwn sydd yn agored i elusen, ond os bydd yr elusen yn penderfynu talu yn y modd hwn, cynghorwn fod y terfynau amser yn cael eu diffinio yn eglur iawn: bod yr union gyfradd talu yn cael ei sefydlu a hynny ar ôl nodi’r tasgau penodol y bydd y codwr arian yn eu gwneud.
  • Submit this page to del.icio.us
  • Submit this page to Digg
  • Submit this page to Newsvine
  • Submit this page to Reddit
  • Submit this page to Facebook
  • Submit this page to StumbleUpon