Bwriad y Côd hwn yw amlinellu arfer gorau wrth isefydliadau elusennol drin arian parod.
Ni fwriedir iddogwmpasu pob un agwedd ar drafod arian, ond i godiymwybyddiaeth o’r meysydd y mae angen eu hystyrieda’r mathau o reolaethau y dylid eu rhoi ar waith.
Dylaisefydliadau ddefnyddio’r nodiadau hyn fel arweiniad ermwyn cynhyrchu eu gweithdrefnau a’u gofynion eu hunain.
Mae’n bwysig rhoi arweiniad ynghylch trin arian parodam dri phrif reswm:
- i warchod y sefydliad rhag dwyn neu dwyll ariannol
- i amddiffyn staff neu wirfoddolwyr rhag cyhuddiadauo anonestrwydd neu’r demtasiwn i dwyllo
- i sicrhau rhoddwyr bod eu rhoddion yn cael eudefnyddio at y pwrpas y rhoddwyd hwy ar ei gyfer.
Trwy’r holl sector codi arian ar gyfer elusennau maeangen trin arian parod, ac mae’n digwydd mewnmeysydd megis apeliadau, digwyddiadau codi arian,gwerthu tocynnau, gwerthu lluniaeth, gwerthu rhaglenni,rafflau a masnachu mewn siopau.
Mae’r arweiniadcyffredinol yn berthnasol i bob sefyllfa ble mae arianparod yn cael ei drafod; mae arweiniad ynghylchdigwyddiadau a masnachu mewn siopau yn ymddangoso dan benawdau penodol.